Gair bach I ddiolch am y cyfle i weithio fel gofalydd I Gofal Bro, mae wedi bod yn agoriad llygaid ac yn brofiad gwerthfawr I mi. Diolch.

- Gofalwr, 27/05/2026

Gair bach o ddiolch i pawb a fuodd hefo’r gwr. Roedd y genod wedi bod yn hynod o ffeind ac yn ffrindiau hefo fo, roedd ganddo feddwl mawr ohonynt. Diolch yn fawr iawn I chi gyd am y gwasanaeth arbennig.

- Gwraig Client, 25/05/2026

Gair yw hwn i ddweud wrthych mor ddiolchgar gwerthfawrogol ydw’i, i’r rhai fu’n gweini mor dynner a gofalus am fy nghwr tra fu’n wael dan eich ofal. Bu’r holl ofalwyr mor ffeind wrtho, ac ni allaf ddiolch digon iddynt.

- Gwraig Client, 23/05/2026

Hoffem fel teulu ddiolch o galon I bawb yn Gofal Bro am eich gofal arbennig ar hyd y blynyddoedd.

- Teulu Client, 21/05/2026

Rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gawsom gennych dros gyfnod gwaeledd mam. Roeddech yn rhan mawr o’r tîm cymuned sbesial sydd yn Nghaernarfon ddaru ein galluogi I fedru cadw mam gartref yn ô ei dymuniad. Braf oedd gweld fod pawb or tîm wedi trafod y gofal ac yn gweithio i’r un nod. Bu mam ym byw’n annibynnol tan yn ddiweddar a nid oedd yn barod I ofyn am help. O’r diwrnod cyntaf I chi ddechrau galw roedd mor ddiolchgar ac yn hapus I dderbyn mwy – mae hyn yn dweud llawer! Cafodd ei thrin gan pawb ohonoch gyda parch ac urddas, roeddech mor gwrtais a chyfeillgar gyda hi, ac yn rhoi gofal arbennig. Ar y dechrau byddai mam yn edrych ymlaen am bob ymweliad ac yn mwynhau sgwrsio gyda chi, roedd pawb mor glên ac annwyl gyda hi. Nid ond mam yn unig oedd yn cael y sylw, daethoch yn gymaint o gefn I ni ar amser mor anodd. Roeddech I gyd yn arbennig a mae gennem feddwl mawr ohonoch. Cofion cynes iawn a diolch o galon.

- Teulu Client, 21/05/2026

Dim ond nodyn bach I ddweud diolch o galon am bob dim, dwi wedi mwynhau gweithio gyda chi, ag y tîm amazing o genod a hefyd cleient.

- Gofalwr, 21/05/2026

Diolch I bawb am ei holl ymdrechion a charedigrwydd wrth ofalu am dad. Mawr ddiolch I bawb, heb ei help, ni allwn warchod o adra hebddynt.

- Teulu Client, 21/05/2026

Diolch yn fawr iawn am y gofal, gefnogaeth a dderbyniwyd Bobbie gennych dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi ei alluogi I gael byw adref mor annibynnol gan godi ei galon bob dydd drwy yr gofalwyr fod mor rwyliog. Gwerthfawrogi’n fawr iawn.

- Gwraig Client, 21/05/2026

Diolch o galon I chi gyd am eich gofal a’ch caredigrwydd tuag at mam bob amser. Rydym yn gwerthfawrogi yn fawr iawn.

- Teulu Client, 21/05/2026

Hoffwn pe baech yn mynegi fy niolchgarwelu I bob un o’r gofalwyr fu’n edrych ar ôl Robert yn ystod y blynyddoedd dwytha ac yn gweni arno. Diolch iddynt hefyd am eu sirioldeb a’u hiwmor. Anodd anghofio’r tynnu coes fôr rhwydd ŷnt, a’r “fish and chips” bondigrybwyll. Diolch am y tynerwch a’r consyrn a ddangoswyd ato gan y rhai oedd yma yn ystod y dyddiau dwytha.

- Merch Client, 21/05/2026

Gair byr I ddiolch I bawb sydd yn gweithio I Gofal Bro am y gofal arbennig I fy mam. Mae eich caredigrwydd wedi golygu’r byd I mam a’r teulu I gyd.

- Merch Client, 21/05/2026

Gymeraf y cyfle yma i ddiolch i dîm arbennig Gofal Bro am eu gwasanaeth profiadol i mi yn ystod y chwe wythnos diwethaf. Hefyd oedd cael cyrraedd gartref a dderbyn cymwynas gwresog. Gwên a hiwmor yn dderbyniol bob amser. Diolch am y cyfan.

- Merch Client, 21/05/2026

Mond isho diolch I chi gyd yn Gofal Bro am yr blynyddoedd o gofal gafodd mam. Fel teulu, ni gyd yn gwerthfawrogi yr cefnogaeth, caredigrwydd, hwyl a gofal gafodd mam. Wedi bod yn rhyfedd iawn peidio gweld y genod yn cyrraedd bob dydd, a’r plant di bod efo hiraeth mawr amdanynt. Job gofalu ddim yn un hawdd a dydi o ddim I bawb ond ma Gofal Bro yn lwcus iawn I fod efo gofalwyr gwych, sydd werth y byd. Diolch I pawb yn y swyddfa hefyd, drwy nhw mae’r cwmni yn rhedeg yn esmwyth. Diolch o waelod calon, chi gyd yn sêr.

- Teulu Client, 21/05/2026

Dim ond gair bach I ddiolch o waelod calon am bob cefnogaeth a phôb sgwrs dros y blynyddoedd. Mae gennyf feddwl mawr a pharch mawr tuag at Gofal Bro.

- District Nurse, 21/05/2026

Fe hoffwn ddiolch yn fawr iawn I chi gyd am eich Gwaith caled yr ydych yn ei rhoi bob dydd. Fe gafodd mam tra o dan eich gofal y gorau bob amser gan yr amryw o ofalwyr a fu mor ffyddlon, ffeind, a goalun ohoni. Mae wedi bod ag yn dal I fod yn amser heriol iawn. Dwi yn gobeithio y bydd yn setlo I lawr efo’r gwasanaeth Newydd fydd yn dechrau yn ystod y mis nesaf ma. Diolch yn fawr am eich gwasanaeth, pob bendith I’r gaeaf caled o’n blaen.

- Teulu Client, 21/05/2026

Hoffwn I a’r teulu ddiolch o waelod calon am y gofal tyner a’r caredigrwydd a ddangoswyd tuag at Wenna yn ystod ei gwaeledd a thristwch. Roedd gwybod eich bod chi yno yn gymorth enfawr I ni ac yn helpu mawr I ysgwyddo, gyfrifoldeb ar hyd daith mor anodd.

- Teulu Client, 21/05/2026

Gair o ddiolch ydy’ hwn I chi a’r holl staff bûm yn ymwneud a nhw dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Nid doeth fyddai enwi pawb fu’n edrych ar ôl mam (siŵr o fethu rhiwyn) ond mae’n rhaid I fi dweud diolch yn fawr arbennig I Carys, sydd wedi bod ar brydiau fel angel gwarcheidiol dros mam. Diolch eto I chi gyd a gobeithio y cewch ddyfodol disglair hefo’r cwmni.

- Mab Client, 21/05/2026

Ysgrifennaf atoch I ganmol Gwaith ardderchog y mae staff Gofal Bro, Caernarfon yn ei wneud. Bu iddynt fod o gymorth gwerthfawr I fy niweddar wŷr n ystod ei salwch difrifol, a hefyd roeddynt o gymorth I ni fel teulu yn ystod amser anodd yn ein bywydau. Roedd eu Gwaith yn ddi-bendraw ac doeth dim byd yn ormod o drafferth iddynt, ac un mantais mawr oedd eu bod I gyd yn siarad Cymraeg. Roedd hyn yn bwysig yn ein sefyllfa oherwydd and oedd Dafydd yn medru cyfathrebu oherwydd ei salwch. Oherwydd gwasanaeth gofal bro bu ni I fedru cadw dymuniad Dafydd, o gael treulio wythnosau olaf ei fywyd yn ei gartref genedigol. Hebddynt ni fuasai hyn wedi bod yn bosib.

- Teulu Client, 21/05/2026

Dim ond nodyn bur i ddiolch yn fawr iawn i ofalwyr cwmni Gofal Bro, yn enwedig Hâf a Glesni am ofalu dros Erin yn ystod y misoedd diwethaf. Diolch iddynt am eu hymroddiad, eu gofal proffesiynol a’r cariad a ddangoswyd tuag ati.

- Rhieni Client, 21/05/2026

Mi fydd dyddiau nesa’n reit brysur, mae’n siŵr, felly gan bod gen i funud fach dawel rŵan, dyma sgwennu gair i ddweud diolch o waelod calon i chdi ar genod i gyd am eich gofal annwyl a chariadus am Mam dros gyfnod mor hir. I minnau’ mae hi fel tase ni wedi cael teulu mawr newydd yn cydio’n dyn amdanon ni i wneud yn siŵr fod pob dim yn gora’ medra’ fo fod ar bob adeg. Pam gychwynnodd Gofal Bro ddod acw, mi ro’n i’n cael trafferth ambell waith cofio enwau pawb. Sorri genod! Ond erbyn diwedd, mi roedden ni gyd, gobeithio, yn ffrindiau gora’. Neu felly o’n i’n teilmlo, p’un bynnag. Ac mo roedd gweld y ffordd roedd Mam yn ymateb i bob un ohonoch chi – hyd yn oed yn ei gwendid – yn dangos bod pawb wedi gallu cyffwrdd â’r Olwen go iawn – yr un tu draw i’r salwch. Mi gofiwn ni’r flwyddyn ddiwetha’ – a’r dyddia dwytha ma’n arbennig – am byth, a pryd bynnag feddwn ni’n meddwl am Nain, mi fyddwn ni’n meddwl am genod Gofal Bro gyda chariad a diolch anferthol. Diolch o waelod calon i chi gyd.

- Teulu Client, 21/05/2026

Dim ond ychydig eiriau i ddiolch O GALON i chi am y gofal arbennig Iawn a dderbyniodd Dad gan Gofal Bro. Ysgrifennaf ar ran teulu i gyd i ddweud pa mor gyfforddus yr oeddem yn gadal Dad yn ngofal eich staff. Roedd pawb un o’r gofalwyr yn ei drin fel aelod o’u teulu eu hunain, ac roeddem yn gweld bod Dad hefyd yn gyfforddus ac yn teimlo’n ddiogel yng ngofal pob un ohonynt. Hoffwn ddiolch yn arbennig i chi’n bersonol, am eich ymateb proffesiynol, personol ac amserol iawn pan oedd y cynllyn gofal yn newid, yn aml ar y funud olaf. Wnâi byth anghofio’r dydd Sul hwnnw pan ddaethoch i fynu i drafod anghenion Dad a hynny ar eich diwrnod i ffwrdd. Llwyddodd Gofal Bro i lunio a gweithredu pecyn gofal unigryw ar gyfer Dad, ac hyd yn oed ar ddiwrnod angladd Mam, roeddem eto fel teulu yn gwbwl gyfforddus ac hapus yn gadael Dad yng ngofal eich staff ac roedd eu gofal ohono mor annwyl a sensitif. Mewn amgylchedd sydd yn clywed straeon ofnadwy am ofal cartref a phreswyl, mae’n bwysig canmol y rhai hynny sy’n gwneud gwaith arbennig, a does gen i ddim ond canmoliaeth uchel iawn i Gofal Bro. Gallaf yn hyderus ddeud bod eich staff yn gwbwl ymroddedig ir personau bregus maent yn gofalu amdanynt, ac yn wirioneddol yn dymuno gwneud gwahaniaeth i’w bywydau ar adegau anodd a sensitif iawn. Plîs wnewch chi gyfleu ein gwerthfawrogiad fel teulu i’r HOLL staff fu’n gofalu am Dad, ac am fedru ei alluogi i aros adref, lle roedd yn dymuno bod, tan y diwedd.

- Merch Client, 21/05/2026